Cyngor Cymuned Tirmynach Community Council © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Tirymynach

Mae ffiniau Plwyf/Cymuned Tirymynach wedi newid nifer o weithiau yn ystod yr oesau, yn wir yn y blynyddoedd diwethaf, e.e. hyd yr wythdegau y ganrif ddiwethaf yr oedd Llety Ifan Hen a nifer o anheddau yn Bontgoch/Elerch yn Nhirymynach. Eiddo Mynachlog Ystrad Fflur bu'r tir ers canrifoedd, sef cwmwd Y Dywarchen, y rhan isaf o Penrhyncoch, Dolferchen oedd yr enw yn ddiweddarach, yn estyn i fyny i Pencwm, Pencefn tuag at Bontgoch. A cwmwd Penweddig, lle mae Bow Street heddiw. Cofnodir rhodd o diroedd yn 1336 gan Faelgwyn Ieuanc i Fynachlog Ystrad Flur, tir oedd yn ffinio â Gogerddan hyd at ffin Cwm Ceulan, Talybont. Estynnai ffin Tirymynach unwaith i'r dwyrain o Craig y Pistyll yn agos at derfynnau Sir Drefaldwyn. Dau enw sydd wedi goroesi ac yn profi cysylltiad Ystrad Flur â'r ardal yma - Bow Street/Clarach, sef yw enw fferm Ty’r Abbey/Ty Rabbi, Clarach, un enw arall tan 1959/60 oedd Porthangel, hen Gwfaint ar dir Ty Rabbi, ond fe'i dymchwelwyd a chodi y ty presenol Coedmor, ond gelwir y goedlan tu cefn yn Coed Porthangel o hyd. Yn ôl traddodiad cartref yr Athro oedd Ty Rabbi a'r disgyblion oedd yn y cwfaint Porthangel. Wedi diddymu Mynachlog Ystrad Fflur, daeth y tiroedd yn eiddo i Blas Y Trawscoed. Ac erbyn 1690, os nad cynt, yr enw ar ardal Tirymynach oedd Court Grange, lle mae Bow Street heddiw ac i fyny at waith mwyn Pencefn. Dechreuwyd codi tai Bow Street a'r Lôn Groes ar dir Court Grange. Erbyn 1890 gwerthodd Ystad Trawscoed tiroedd Tirymynach i Ystad Gogerddan. Ond daliodd Trawscoed ei gafael ar gaeau yn Bow street yn fras o waelod y pentre at Rhydypennau a'u galw yn Caergywydd Estate, tir y fferm ydoedd Yn 1890 gwnaeth Trawscoed gytundeb â teulu James Bwlchcrwys, Pontarfynach i gymeryd fferm ac Ystad Caergywydd yn gyfnewid. Erbyn hyn darfu yr Ystad, a'r fferm yn uned ar ben ei hun ers 1948. Cyfeiriwyd eisioes at y Lôn Groes Cross Street. Codwyd croes ar ben lôn Brysgaga i gofio am fynach o'r enw Agam, Cristion a laddwyd gan anwariaid. Cyngor Plwy oedd Tirymynach, ond ar ôl 1974 Cyngor Cymuned yw yr enw swydddogol.

Cyngor Cymuned Tirmynach Community Council © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

Croeso i wefan Cyngor Cymuned

Tirymynach