Cyngor Cymuned Tirmynach Community Council © 2025 Website designed and maintained by H G Web Designs
Croeso i wefan Cyngor Cymuned Tirymynach
Mae ffiniau Plwyf/Cymuned Tirymynach wedi newid nifer o weithiau
yn ystod yr oesau, yn wir yn y blynyddoedd diwethaf, e.e. hyd yr
wythdegau y ganrif ddiwethaf yr oedd Llety Ifan Hen a nifer o
anheddau yn Bontgoch/Elerch yn Nhirymynach. Eiddo Mynachlog
Ystrad Fflur bu'r tir ers canrifoedd, sef cwmwd Y Dywarchen, y rhan
isaf o Penrhyncoch, Dolferchen oedd yr enw yn ddiweddarach, yn
estyn i fyny i Pencwm, Pencefn tuag at Bontgoch. A cwmwd
Penweddig, lle mae Bow Street heddiw.
Cofnodir rhodd o diroedd yn 1336 gan Faelgwyn Ieuanc i Fynachlog
Ystrad Flur, tir oedd yn ffinio â Gogerddan hyd at ffin Cwm Ceulan,
Talybont. Estynnai ffin Tirymynach unwaith i'r dwyrain o Craig y Pistyll
yn agos at derfynnau Sir Drefaldwyn. Dau enw sydd wedi goroesi ac yn
profi cysylltiad Ystrad Flur â'r ardal yma - Bow Street/Clarach, sef yw
enw fferm Ty’r Abbey/Ty Rabbi, Clarach, un enw arall tan 1959/60
oedd Porthangel, hen Gwfaint ar dir Ty Rabbi, ond fe'i dymchwelwyd a chodi y ty presenol Coedmor, ond gelwir y goedlan tu cefn yn
Coed Porthangel o hyd.
Yn ôl traddodiad cartref yr Athro oedd Ty Rabbi a'r disgyblion oedd yn y cwfaint Porthangel. Wedi diddymu Mynachlog Ystrad Fflur,
daeth y tiroedd yn eiddo i Blas Y Trawscoed. Ac erbyn 1690, os nad cynt, yr enw ar ardal Tirymynach oedd Court Grange, lle mae Bow
Street heddiw ac i fyny at waith mwyn Pencefn. Dechreuwyd codi tai Bow Street a'r Lôn Groes ar dir Court Grange. Erbyn 1890
gwerthodd Ystad Trawscoed tiroedd Tirymynach i Ystad Gogerddan. Ond daliodd Trawscoed ei gafael ar gaeau yn Bow street yn fras o
waelod y pentre at Rhydypennau a'u galw yn Caergywydd Estate, tir y fferm ydoedd Yn 1890 gwnaeth Trawscoed gytundeb â teulu
James Bwlchcrwys, Pontarfynach i gymeryd fferm ac Ystad Caergywydd yn gyfnewid. Erbyn hyn darfu yr Ystad, a'r fferm yn uned ar ben
ei hun ers 1948. Cyfeiriwyd eisioes at y Lôn Groes Cross Street.
Codwyd croes ar ben lôn Brysgaga i gofio am fynach o'r enw Agam, Cristion a laddwyd gan anwariaid. Cyngor Plwy oedd Tirymynach,
ond ar ôl 1974 Cyngor Cymuned yw yr enw swydddogol.